Cymraeg >> Cymraeg


Addysg Amgylcheddol

y Gwendraeth

 

Mae Addysg Amgylcheddol y Gwendraeth yn fenter gydweithredol gymunedol a’i nod yw
. Darparu addysg amgylcheddol ymarferol
. Meithrin cysylltiadau gyda’r gymuned
. Darparu gwaith ar gyfer crefftwyr lleol
 
 
Yn ein safle cyfoethog ac amrywiol ym Mlaen y Wern, mae’r bywyd gwyllt yn doreithiog yn y cwm coediog, y dolydd a’r nentydd ac yn cynnwys y mochyn daear, y cadno, madfallod y dŵr, eurbennau a chnocellau’r coed, i enwi ond ychydig. Mae yna gerfluniau trawiadol i’ch synnu o amgylch pob cornel. Mae gennym gysgodfa groeso ffrâm graidd newydd a chanolfan addysg mewn tŷ crwn, gyda chyfleusterau cegin a thoiledau compost, wedi’u hadeiladu’n llwyr gyda defnyddiau lleol gan ddefnyddio dulliau traddodiadol. Mae’r safle’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
 
 
Rydyn ni’n gallu cynnig cyrsiau a gweithdai mewn
 
. Gwaith coed gwyrdd gan gynnwys turnio polyn, turnio pren, creu clwydi,
gwehyddu helyg, creu llwyau a chynhyrchu golosg
. Celf a chrefft wedi’u hailgylchu
. Tecstilau, gwehyddu, troelli a gweu
. Rheoli coetiroedd, coedlannu, gosod cloddiau, adnabod coed, plannu coed
. Ymwybyddiaeth o natur a bioamrywiaeth, garddio amaeth naturiol, gwylio adar, tracio
. Adeiladu gyda byrnau gwellt a chob, adeiladu cysgodfeydd
 
 
Gellir hurio Blaen y Wern ar gyfer eich digwyddiadau hefyd, gan gynnwys y gysgodfa groeso, y ganolfan addysg a 22 erw o goedwig a dolydd. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.